Newyddion Eisteddfod Powys

Y diweddaraf

Eisteddfod Talaith A Chadair Powys
Rhosllannerchrugog
Gorffennaf 15-16, 2022

english version below...
Rydym wedi gorffen rhoi'r rhaglen at ei gilydd a bydd yn mynd i'w argraffu yn y dyddiau nesaf! Mae copi o'r drefn i’w weld ar y wefan yma. Bydd Rhaglen y Dydd ar werth yn yr Eisteddfod a bydd yn cynnwys llawer o bethau diddorol ychwanegol.
Noder - bydd y ddwy gystadleuaeth Unawd Cerdd Dant blwyddyn 10 & blwyddyn 10 a dan 19 CYN y Coroni. Mae hyn yn wahanol i'r drefn sydd i’w weld ar dudalen facebook Eisteddfod Powys 2020. Mae hyn er mwyn hwyluso trefniadau’r delynores.

Plîs wnewch chi sylwi fod cystadlaethau dan 19 ar y dydd Gwener (cychwyn am 4pm) a chystadlaethau agored ar y Sadwrn (cychwyn am 1.30pm). Ni fydd unrhyw ragbrawf - Llwyfan i bawb! Os ydych yn cystadlu ar y cystadlaethau agored e.e. Unawd Gymraeg, Her Unawd, Llefaru, Canu Emyn bydd angen i chi fod yno yn y pnawn.
Cofiwch hefyd fod seremoni o amgylch Cerrig yr Orsedd ar y bore Sadwrn, 16eg am 11am, ble bydd aelodau Newydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd. Mae’n ddigwyddiad trawiadol iawn ac yn werth dod i wylio.

Bydd Cyfeillion y Stiwt yn gwerthu diodydd a bwyd yn ystod yr Eisteddfod a bydd yr elw yn mynd tuag at y Stiwt sydd yn adnodd pwysig iawn i ni. Dewch i'n cefnogi a dewch i fwynhau'r cystadlu!

Cofiwch hefyd fod cystadlaethau Celf a Chrefft yr Eisteddfod i fod yn y Stiwt nos Iau 14eg 3.30 - 6pm (Ystafell Hafod). Ond unrhyw waith coginio a gosod blodau cyn 10am ar ddydd Gwener, 15fed.


Eisteddfod Talaith A Chadair Powys
Rhosllannerchrugog
Gorffennaf 15-16, 2022

We have finished putting the programme of events together and it should go to print in the next few days! A copy of the order can be found on this website. The Programme of the Day will be on sale at the Eisteddfod and will include many extra interesting things.

Please note that the two Cerdd Dant competitions – solo for Year 10 and below, and Year 10 to under 19 will now be held BEFORE the Crowning. This is different to what was published on the Eisteddfod Powys 2020 Facebook page.

Please note all under 19 competitions will be on Friday (starting at 4pm) and all open competitions will be on Saturday (starting at 1.30pm). There won’t be any prelims – stage for all! If you are competing on any of the open competitions, e.g. Welsh Solo, Her Unawd, Reciting, Hymn Singing, you will need to be there in the afternoon.
Remember as well about the ceremony at the Gorsedd Stones on Saturday morning 16th at 11am where new members will be welcomed into the Gorsedd y Beirdd. It is a spectacular event and worth coming to watch.

Cyfeillion y Stiwt will be selling food and drinks during the Eisteddfod will all profits going towards the Stiwt – which is a very important resource for us. Please come and support and enjoy the competing!

Remember as well, Arts and Crafts competitions for the Eisteddfod - please bring woodwork, photography etc to the Stiwt between 3.30 - 4pm on Thursday 14th and cookery and flower arranging before 10am on Friday 15th please.

EISTEDDFOD HYNAF CYMRU YN ÔL YN Y CNAWD

english version below...

Wedi hir ymaros, gallwn gyhoeddi y bydd Eisteddfod Talaith a Chadair Powys yn ôl yn y cnawd. Ar ôl dwy flynedd heb Eisteddfod draddodiadol - mae brwd edrych ymlaen at Eisteddfod eleni a fydd yn cael ei chynnal yn y Stiwt yn Rhosllannerchrugog ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn, 15-16 o Orffennaf.

Dywedodd Aled Lewis Evans ar ran y Pwyllgor Gwaith fod brwdfrydedd rŵan i fynd â’r maen i’r wal. “Er ein bod wedi colli arweiniad doeth a brwdfrydig Aled Rhys Roberts, rydym wedi uno fel Pwyllgor rŵan i sicrhau ar ôl bwlch y pandemig hefyd, fod yr ŵyl yn cael ei gwireddu eleni. Bydd cynnal Eisteddfod hynaf Cymru, yn gyfle i ni hefyd gofio am weledigaeth Aled Roberts, a’r daioni a wnaeth dros yr iaith Gymraeg yn ei gyfnod fel Comisiynydd Iaith. Bydd yn achlysur llawen yn ein bro, a gobeithiwn am gefnogaeth Powys y presennol a’r Powys hanesyddol ym mis Gorffennaf. Bydd croeso i gystadleuwyr o bob rhan o Gymru i’r Ŵyl a gynhelir yng nghanolfan ragorol Y Stiwt, Rhosllannerchrugog.”

Meddai Rhian Davies, Swyddog Cyfathrebu Eisteddfod Powys, “Mae wedi bod yn gyfnod hir a heriol ers i’r Eisteddfod Powys diwethaf gael ei chynnal yn Llangadfan nol yn 2019. Llenwyd y bwlch rhywfaint gyda chwip o Eisteddfod Rithiol yn 2021 - ble gwelwyd dros 1200 o eitemau a chystadleuwyr- ond mae pawb yn awchu am gael steddfod ‘go iawn’ unwaith eto. Mae 'Steddfota, brysio o ragbrawf i ragbrawf a chael cam gan y beirniaid yn rhan o’n hunaniaeth fel Cymry, a’r eisteddfodau bychan lleol yn rhoi llwyfan a chyfle amhrisiadwy i feithrin talent ar lawr gwlad.”


Mae dal posib gwylio tair sesiwn Eisteddfod Rithiol 2021 ar You Tube: Sianel YouTube Eisteddfod Powys


Yn wreiddiol y bwriad oedd cynnal yr Eisteddfod yn Rhosllannerchrugog nol yn 2020, ar achlysur dathlu 200 mlwyddiant Eisteddfod Powys. Er mai dyma’r tro cyntaf i Rhos groesawu’r Eisteddfod – roedd Cymrodoriaeth yr Eisteddfod yn awyddus i weld Eisteddfod dathlu’r 200 yn dychwelyd i Sir Wrecsam, gan mai yn Wrecsam y cynhaliwyd yr Eisteddfod Powys gyntaf erioed. Mae’n debyg mai’r rheswm y’i cynhaliwyd yn Wrecsam oedd caredigrwydd Syr Watcyn Williams Wynne o ystâd Wynnstay yn Rhiwabon a wnaeth gynnig nawdd hael ar ei chyfer.

Ond clywn rhai ohonoch yn holi- pam cynnal Eisteddfod Powys yn Wrecsam? Eisteddfod Powys yw’r unig un o’r Eisteddfodau taleithiol sy’n dal i fodoli – ond nid Powys fel yr adnabyddir hi heddiw. Ond yn hytrach Powys Fadog a Powys Wenwynwyn (sy’n cynnwys yn fras y rhan fwyaf o Faldwyn, Croesoswallt, rhan helaeth o Sir Wrecsam, de Sir y Fflint, ardal Corwen a Llangollen yn Sir Ddinbych, a draw i ardal Bala a Phenllyn). Gobeithir gweld cythraul canu a chystadlu brwd o’r ardaloedd hyn eleni, ond croeso mawr hefyd, yn ôl yr arfer, i gystadleuwyr o Gymru gyfan a thu hwnt!

Ychwanegodd Rhian Davies, Swyddog Cyfathrebu’r Eisteddfod, “Mae amseru’r eisteddfod hon yn wych ar gyfer unrhyw rai sydd wedi profi llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd, neu rhai sydd am gael ymarfer a beirniadaeth adeiladol cyn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cofiwch hefyd am y gwobrau hael sydd ar gael. Gobeithio y bydd pawb yn awchu am gael Eisteddfota eto ac y bydd llond y lle o gystadlu.”


Mae copi o’r RHESTR TESTUNAU i’w gweld ar Rhestr Testunau Eisteddfod Powys


Dyddiad cau gwaith llenyddol – Mai 1af.

Dyddiad cau cofrestru cystadlaethau llwyfan – Mehefin 1af.

Dyddiad cau cofrestru cystadlaethau celf a chrefft – Gorffennaf 1af.


WALES’S OLDEST EISTEDDFOD – BACK WITH A BANG

Click here to read more about the Eisteddfod



Eisteddfod Powys Rithiol

Hiraethu am ‘Steddfod mewn neuadd bentre’?
Gweld isho’r wefr o berfformio a chystadlu?
Awchu am gael trafod pwy gafodd cam gan y beirniad?
Brysiwch i gefn y cwpwrdd i nol eich dillad gore – mae ‘Steddfod Powys Rithiol ar y ffordd! Pwy feddylie y byddai ‘Steddfod hynaf Cymru’n troi’n ddigidol?

 

Darlledir yr Eisteddfod Powys Rithiol gyntaf erioed ar Ddydd Sadwrn, Gorffennaf 10fed 2021 ar YouTube.
Bydd y Rhestr Testunau a manylion cystadlu ar gael o Ebrill 26ain ar wefan Eisteddfod Powys ac ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.

Mae bob math o gystadlaethau- rhywbeth at ddant pawb, i blant, teuluoedd, oedolion, dysgwyr a busnesau- rhai traddodiadol a rhai dipyn mwy gwirion!
Am gyfle i ennill gwobrau ariannol a’r clod o fod yn rhan o’r ‘Steddfod Taleithiol Rithiol gyntaf yng Nghymru – ewch ati i gystadlu.
Dyddiad cau ar gyfer anfon eich gwaith cartref neu fideo o’ch perfformiad llwyfan yw Dydd Gwener yr 11eg o Fehefin.


Be gwell na gwylio talentau ‘Steddfodol o foethusrwydd eich soffa glud yn hytrach nag ar gadair blastig gwichlyd anghyffyrddus mewn neuadd neu babell chwyslyd?!

Roedd 2020 i fod yn flwyddyn arbennig i Eisteddfod Cymrodoriaeth Talaith a Chadair Powys. Roedd disgwyl dathlu mawr wrth i’r Eisteddfod ddychwelyd i Rhosllannerchrugog ac i ardal Wrecsam, lle cynhaliwyd yr Eisteddfod Powys gyntaf dau gan mlynedd ynghynt. Ond clywaf rhai ohonoch yn holi- pam cynnal Eisteddfod Powys yn Wrecsam?


Eisteddfod Powys yw’r unig un o’r Eisteddfodau taleithiol sy’n dal i fodoli – ond nid Powys fel yr adnabyddir hi heddiw. Ond yn hytrach Powys Fadog (oedd yn cynnwys cymydau Cynllaith, Iâl, Maelor, Mochnant Is Rhaeadr, Nanheudwy, yr Hôb, Ystrad Alun, Edeyrnion, Dinmael, Meirionydd a Phenllyn) a Powys Wenwynwyn (oedd yn cynnwys cymydau Arwystli, Caereinion, Cedewain, Ceri, Cyfeiliog, Deuddwr, Gorddwr, Llannerch Hudol, Mawddwy, Mechain, Mochnant Uwch Rhaeadr ac Ystrad Marchell.) Gobeithir gweld cythraul canu a chystadlu brwd o’r ardaloedd hyn eleni, ond croeso mawr hefyd, yn ôl yr arfer, i gystadleuwyr o Gymru gyfan a thu hwnt!


Diolch i aelodau Cymrodoriaeth Talaith a Chadair Powys, gwirfoddolwyr yr is-bwyllgorau, Menter Iaith Maldwyn a Menter Iaith Fflint a Wrecsam am eu cefnogaeth.


Gwobr Llanbrynmair

Mae’n bleser gan y Gymrodoriaeth gyhoeddi lansio Gwobr Lenyddol newydd sbon, sef “Gwobr Llanbrynmair”. Mae’r wobr hael hon wedi ei noddi gan un sydd yn byw yn y Dalaith, sydd yn falch iawn o hanes a diwylliant y rhan yma o Gymru, ac am weld ffyniant ei chymeriad arbennig. Dymuniad y noddwr/wraig yw i fod yn ddi-enw ac y mae’r Gymrodoriaeth yn parchu hynny.
Gwobr am waith llenyddol mewn rhyddiaith yw hon ac yn werth hyd at Bum Mil o Bunnoedd (£5,000.00) yn flynyddol. Bwriad y Wobr yw i ehangu gwybodaeth a sbarduno diddordeb ym mywyd a threftadaeth y rhan yma o Gymru, ardal yr Hen Bowys, sef Powys Gwenwynwyn a Phowys Fadog. Dymunir i’r gwaith llenyddol ddilyn y canllawiau hynny er mwyn cyrraedd nod y wobr noddedig hon.
Oherwydd effeithiau Cofid 19 mae’r Gymrodoriaeth eisoes wedi penderfynu ar gomisiwn arbennig fydd yn derbyn Gwobr Llanbrynmair yn 2022, ac edrychwn ymlaen at hynny. Mae’n bleser gennym yn awr, felly, wahodd ceisiadau i’w gwobrwyo o bosib yn 2023 ac yn y blynyddoedd i ddilyn. Mae’r Wobr yn agored i Gymru gyfan – a’r byd! i geisio amdani. Mae’r Gymrodoriaeth yn edrych ymlaen at helfa o ryddiaith gyffrous, ac mewn amrywiol ffurfiau, ac yn dymuno pob ysbrydoliaeth i’r cystadleuwyr.

 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth


DATGANIAD

Mewn cyfarfod o Bwyllgor Gwaith Cymrodoriaeth Eisteddfod Talaith a Chadair Powys a gynhaliwyd ar lein Ddydd Sadwrn, Hydref 24ain 2020, wedi trafodaeth drylwyr ynglŷn â’r sefyllfa yn ymwneud â pandemig Covid 19, penderfynwyd gohirio Eisteddfod Talaith a Chadair Powys Rhosllannerchrugog a’r Cylch 2020, oedd i fod i gael ei chynnal yn Y Stiwt ar Orffennaf 16eg a’r 17eg 2021 am flwyddyn arall. Felly gobeithiwn ei chynnal yn 2022. Golyga hyn y bydd Eisteddfod Talaith a Chadair Powys Edeyrnion a Penllyn yn cael ei chynnal yn yr Hydref 2023.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Aelodau Pwyllgor y Rhos am eu dyfalbarhad a’u gwaith yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ac i drigolion y Rhos am eu cefnogaeth i’r ymdrechion i godi arian hyd yn hyn. Hoffem eich sicrhau y bydd Cronfa Eisteddfod Rhosllannerchrugog a’r Cylch yn cael ei chadw’n ddiogel i’w defnyddio ar gyfer eich Eisteddfod chi yn unig.

Gwrtheyrn, y Cofiadur