Gwobr Llanbrynmair


Mae’n bleser gan y Gymrodoriaeth gyhoeddi lansio Gwobr Lenyddol newydd sbon, sef “Gwobr Llanbrynmair”. Mae’r wobr hael hon wedi ei noddi gan un sydd yn byw yn y Dalaith, sydd yn falch iawn o hanes a diwylliant y rhan yma o Gymru, ac am weld ffyniant ei chymeriad arbennig. Dymuniad y noddwr/wraig yw i fod yn ddi-enw ac y mae’r Gymrodoriaeth yn parchu hynny.
Gwobr am waith llenyddol mewn rhyddiaith yw hon ac yn werth hyd at Bum Mil o Bunnoedd (£5,000.00) yn flynyddol. Bwriad y Wobr yw i ehangu gwybodaeth a sbarduno diddordeb ym mywyd a threftadaeth y rhan yma o Gymru, ardal yr Hen Bowys, sef Powys Gwenwynwyn a Phowys Fadog. Dymunir i’r gwaith llenyddol ddilyn y canllawiau hynny er mwyn cyrraedd nod y wobr noddedig hon.

 

Mae’n bleser gennym yn awr, felly, wahodd ceisiadau i’w gwobrwyo o bosib yn 2025 ac yn y blynyddoedd i ddilyn. Mae’r Wobr yn agored i Gymru gyfan – a’r byd! i geisio amdani. Mae’r Gymrodoriaeth yn edrych ymlaen at helfa o ryddiaith gyffrous, ac mewn amrywiol ffurfiau, ac yn dymuno pob ysbrydoliaeth i’r cystadleuwyr.

 

Cliciwch yma i ddarllen y datganiad swyddogol.

 

Cliciwch yma i lawrlwytho ffruflen gais

 

Am ragor o fanylion cysylltwch a: Bnr. Dafydd. M. Lewis drwy

ebost dafyddmorgan53@gmail.com

07870996220 (symudol)

01938 820 330 (ffon)