Croeso'r Cadeirydd
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, mae’n bleser o’r mwyaf cael cyflwyno ein Rhestr Testunau ar gyfer Eisteddfod Talaith a Chadair Powys – Machynlleth 2026.
Mae’r ardal yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu’r Eisteddfod yn ôl i’r dref ar ôl seibiant o 14 mlynedd.
Mae gen i gyswllt â’r Eisteddfod sy’n mynd yn ôl tua 35 mlynedd – (sy’n gwneud i mi deimlo’n andros o hen!) gan i mi fod yn gyw-gadeirydd ar Bwyllgor Drama’r ŵyl pan ddaeth yr Eisteddfod i’r dref yn 1989, ac yn dilyn hynny rwyf wedi cynnal diddordeb achlysurol yn yr Eisteddfod fel cystadleuydd a chefnogwr. Felly, mae cael cadeirio’r Pwyllgor Gwaith eleni yn fraint ac yn bleser gan fod yr aelodaeth yn ffyddlon, yn frwdfrydig ac yn weithgar ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at groesawu pawb i’r dref ddechrau mis Gorffennaf 2026...parhau i ddarllen
MOMA / Y Tabernacl, Machynlleth
Cofrestrwch i gystadlu yn Eisteddfod Talaith a Chadair Powys Bro Ddyfi 2026:
Rheolau Cystadlu i ddilyn yn fuan...
Rhestr Testunau’r Eisteddfod Talaith a Chadair Powys Bro Ddyfi 2026 (pdf)
Mae nifer o straeon am hynt a helynt Eisteddfod Powys ar gael ar dudalen:
Hanes yr Eisteddfod
Amserlen Cystadlu ar gyfer Eisteddfod Talaith Chadair Powys Bro Ddyfi 2026
Gorffennaf 3-4 2026
Yma'n fuan...
Mae Cymrodoriaeth Eisteddfod Talaith a Chadair Powys yn lansio Cystadleuaeth Lenyddol arbennig iawn. Mwy o wybodaeth ar gael drwy glicio yma:
Gwobr Llanbrynmair
Yma'n fuan...
Adran Gerdd ac Offerynol: alwyn_evans@hotmail.com
Adran Gwerin a Cherdd Dant: mennablake@gmail.com
Adran Lefaru a Theatr: pryderi83@gmail.com
Adran Ddawns: meelerijones@gmail.com
Adran Y Dysgwyr: eiw@aber.ac.uk
Pob hwyl gyda’r gwaith paratoi ac edrychwn ymlaen at eich cwmni ar benwythnos 3ydd a 4ydd o Orffennaf 2026 yn MOMA / Tabernacl, Machynlleth.
Sioned Elin Hughes
Gwytheyrn
Pennant
Llanbrynmair
Powys
SY19 7BH
Rhif Ffôn: 07971520122
Ebost: eisteddfodpowys@outlook.com